Telerau ac Amodau Parc Cŵn
1. Gwybodaeth Archebu
-
1.1 Rhaid i bob archeb gael ei wneud drwy ein gwefan: pawenlawen.co.uk. Dangosir cost y gwasanaeth pan fyddwch yn archebu. Unwaith y byddwch wedi archebu, byddwch yn derbyn e-bost gyda chod y giât, copi o'r Telerau ac Amodau hyn ac unrhyw wybodaeth bwysig arall. Peidiwch â rhannu cod y giât ag eraill, mae hwn i’ch defnydd chi yn unig.
-
1.2 Os byddwch yn cyrraedd yn hwyr, ni ellir ymestyn yr archeb gan fod y parc cŵn yn cael ei logi bob awr am 50 munud. Bydd y rhai sy'n cyrraedd yn hwyr yn cael eu cyfyngu i'w hamseroedd archebu.
-
1.3 Polisi Canslo – ni allwn ad-dalu archebion a ganslwyd gan fod gennym gostau taliadau ac efallai na chaiff y slot ei lenwi ar fyr rybudd. Fodd bynnag, gallwch addasu eich archeb os byddwch yn anfon e-bost atom gydag o leiaf 48 awr o rybudd. Yna gallwn anfon cod archebu newydd atoch i'w ddefnyddio o fewn y mis.
-
1.4 Nid yw archebion yn drosglwyddadwy. Rhaid i'r sawl sy'n archebu fod yn bresennol a rhaid iddynt sicrhau fod unrhyw un arall sy'n mynychu yn gyfarwydd â’r Telerau ac Amodau hyn, ac yn cadw atynt.