Ein Gwerthoedd -
Cynaliadwyedd
Mae Pawen Lawen wedi ymrwymo i gynaliadwyedd a bioamrywiaeth, ac wedi plannu gwrychoedd lluosog a blodau gwyllt cynhenid yn y parc cyn agor.
Daliwch sylw ar yr ynys fechan o flodau gwyllt yng nghanol y parc, wedi ei chreu yn un swydd er mwyn galluogi bywyd gwyllt i ffynnu mewn heddwch, heb ei sathru gan bawennau or-gynhyrfus.
Mae gweddill y blodau gwyllt a'r glaswellt hir yna yn un swydd ar gyfer eich ci/cŵn - i wella'u synhwyrau naturiol tra ar yr un pryd yn cefnogi a hybu bioamrywiaeth.
Rydym wedi defnyddio deunydd wedi'i ailddefnyddio, adnewyddu a'i ailgylchu i greu mwyafrif yr offer a gweithgareddau yn y parc gan gynnwys defnyddio hen baledi a theiars. Mae’r gridiau parcio, y fainc picnic a’r cylchoedd neidio wedi eu gwneud yn gyfan o blastig wedi’i ailgylchu.
Mae ein gwasanaeth yn ddwyieithog. Cysylltwch â ni yn Gymraeg neu Saesneg.