Cwestiynau ac Atebion Parc Cŵn Pawen Lawen
Rydym wedi casglu rhestr o gwestiynau ac atebion i drio gwneud eich amser yn Pawen Lawen mor bleserus ac di-bryder a phosib.
Dylai phopeth gael ei ateb isod.
Beth petai fy magiau baw ci'n darfod neu fy mod yn eu hanghofio?
Oes dŵr ar gael?
Pa mor fawr ydi'r parc?
Ydi'r parc yn berffaith ddiogel?
Oes yna rywle cysgodol?
Oes unrhyw ddisgownt i gwsmeriaid lleol a rhai rheolaidd?
Bydd gennym fagiau baw ci sbâr petaech yn anghofio eich rhai chi neu'n rhedeg allan yn ystod eich ymweliad.
Mae gennym gynhwysion dŵr a phowlenni yfed ar gael ar y safle. Mae'r dŵr yn cael ei newid bob 2-3 diwrnod.
Mae'r parc fymryn o dan 2 acer.
Amgylchynir y parc gan ffens 5.5tr - ffens stoc ddwbl gyda weiren blaen ychwanegol ar y top a weiran iâr ar waelod y ffens.
Mae gwrych sefydledig y tu ôl i ran fwyaf y ffens gyda gwrychoedd newydd eu plannu yn y darnau eraill.
Mae CCTV yn gorchuddio mwyafrif y lle.
Bydd rhaid i chi asesu'r parc i sicrhau ei fod yn addas ar gyfer eich ci/cŵn. Ni allwn warantu na all pob un ci ddianc ohono, mwy na allwn warantu na fydd unrhyw fywyd-gwyllt yn y parc.
Oes, mae yna fan cysgodi gyda lle i eistedd ar gyfer y dyddiau gwyllt, glawog Cymreig hynny...
Mae cod disgwont ar gael i drigolion Môn petaech yn ein he-bostio neu negeseuo cyn gwneud eich archeb. Rydym hefyd yn cynnig disgownt i gwsmeriaid sy'n bwcio-swmp o 3 sesiwn ar y tro - 'frequent explorer'.