Parc cŵn sy'n gweithredu fel adnodd hurio preifat yw Pawen Lawen, lle gallwch archebu slot preifat mewn cae 2-acer fesul yr awr ar eich cyfer chi a'ch ci/cŵn.
​
Gallwch gerdded i’r parc o bentref Niwbwrch, ac o’r parc i’r twyni tywod a'r cerrig-cerdded enwog. Nid yw ond ychydig gamau o’r safle bws. Mae'r parc hefyd yn agos iawn i’r traeth a'r goedwig os ydych chi'n teithio mewn car. Mae maes parcio ar y safle.
Mae nifer o atyniadau twristiaid yn yr ardal yn ogystal â bwytai, mannau campio a siopau bwyd-i-fynd. Petaech yn bwriadu ymweld â golygfeydd lleol, dod ar wyliau, cael diwrnod i'r brenin gyda theulu neu gyfeillion, neu i gael pryd o fwyd, pam na flinwch chi aelod/au pawenog eich teulu allan o flaen llaw?
Mae Pawen Lawen yn cynnig man hygyrch, diogel a naturiol ar gyfer cŵn a'u perchnogion. Lle i eistedd, cerdded a chwarae hefo’ch ci/cŵn heb orfod poeni am bobl a chŵn eraill.
​
Gallasai fod yr ateb perffaith i berchnogion sydd yn methu mynd â'u cŵn gorfywiog i gerdded ym mhell iawn. Efallai fuasai'n addas ar gyfer perchnogion sydd angen mwy o le i hyfforddi cŵn ifanc, cŵn wedi eu hachub neu gŵn wedi eu hail-gartrefu.
​
Mae'r parc yn darparu lle diogel yn yr awyr agored ac yn y gymuned leol i gymdeithasu gyda chyfeillion, theulu a’u plantos blewog - mae'n bosib archebu slot preifat i ddefnyddio'n unigol neu gyda ffrindiau neu deulu.
​
Mae Pawen Lawen yn ymylu ar ardal o harddwch naturiol rhagorol, gyda'r Wyddfa i'w gweld yn glir ynghanol ysblennydd Eryri. Mae man cysgodol i eistedd yn ystod tywydd glawog gwyllt sy'n weddol gyffredin yng Nghymru, ynghyd ag offer-chware, tywod ac ardal synhwyraidd o flodau gwyllt ar gyfer ysgogi meddyliau a synhwyrau eich ci/cŵn
Mae'r parc:
Yn berffaith ar gyfer nifer o gŵn:
Wedi'i deilwra ar gyfer cŵn ifanc:
Yn darparu amgylchedd cyfeillgar i bryder:
Yn lletya cŵn adweithiol:
Yn berffaith ar gyfer cŵn sy'n cau dychwelyd
Wedi'i gynllunio ar gyfer cŵn ag anableddau corfforol
Mae Pawen Lawen yn darparu amgylchedd delfrydol ar gyfer perchnogion gyda nifer o gymdeithion blewog. Mae’r cae 2 acer yn caniatáu digon o le i gŵn gymdeithasu, chwarae, ac archwilio gyda’i gilydd, gan sicrhau profiad llawen a deniadol i bob aelod o’r teulu.
Mae ein parc cŵn wedi’i gynllunio’n arbennig i ddarparu ar gyfer anghenion cŵn ifanc. Mae’r lleoliad yn cynnig lle diogel i gŵn bach ddatblygu sgiliau cymdeithasol, archwilio amgylchoedd newydd, a gwario eu hegni di-ben-draw, gan feithrin profiadau cynnar cadarnhaol sy’n hanfodol ar gyfer eu lles cyffredinol.
Ar gyfer cŵn sy'n bryderus neu sy'n well ganddynt eu cwmpeini eu hunain., mae Pawen Lawen yn cynnig awyrgylch tawel a llonydd. Gyda slotiau archebu preifat, gall perchnogion greu profiad tawel, gan ganiatáu i'w cŵn fwynhau'r parc heb straen mannau gorlawn, gan hyrwyddo ymdeimlad o ddiogelwch a chysur.
Gan ddeall anghenion unigryw cŵn adweithiol, mae ein parc cŵn yn sicrhau amgylchedd rheoledig a diogel. Mae sesiynau preifat yn rhoi'r cyfle i berchnogion ganolbwyntio ar atgyfnerthiad cadarnhaol a hyfforddiant ymddygiad, gan greu man lle gall cŵn adweithiol ddod i arfer â'i gilydd a mwynhau eu hamser heb straen diangen.
Mae'r parc yn fan caeedig a diogel, i alluogi perchnogion i weithio ar hyfforddiant a cael eu cwn i ddychwelyd heb orfod poeni bod eu cŵn yn crwydro. Mae'r amgylchedd rheoledig hwn yn meithrin profiad dysgu cadarnhaol, gan wella'r cysylltiad rhwng perchennog a chi.
Mae Pawen Lawen wedi ymrwymo i gynwysoldeb, gan ddarparu hygyrchedd i gŵn ag anableddau corfforol. Mae cyfleusterau'r parc wedi'u dylunio ar gyfer lefelau symudedd amrywiol, gan ganiatáu i bob ci, waeth beth fo'r heriau corfforol, fwynhau'r awyr agored mewn modd diogel a chyfoethog.